SL(6)443 – Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024
Cefndir a Diben
Mae Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 (“y Rheoliadau”) yn nodi’r safonau sydd i’w cyrraedd gan ysgolion annibynol at ddibenion cofrestru, adrodd ac arolygu yn unol â Deddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”).
Mae’r Rheoliadau yn dirymu ac yn disodli’r Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 presennol.
Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau yn nodi’r safonau yn unol a’r categorïau a bennir yn adran 157(1) o Ddeddf 2002:
· Ansawdd yr addysg a ddarperir,
· Datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion,
· Lles, iechyd a diogelwch disgyblion,
· Addasrwydd perchnogion, staff a staff cyflenwi,
· Mangreoedd ysgolion a llety byrddio mewn ysgolion annibynnol,
· Darparu gwybodaeth,
· Y dull o ymdrin â chwynion.
Ymhlith pethau eraill, mae’r safonau hyn yn:
· Cynnal gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn fwy aml, sef bob tair blynedd;
· Ei gwneud yn ofynnol i ysgolion annibynnol fynd ati i hybu gwybodaeth am Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a dealltwriaeth ohoni,
· Ei gwneud yn glir mai perchennog ysgol annibynnol sy'n gyfrifol am gydymffurfio â safonau yn y pen draw,
· Ei gwneud yn ofynnol i ysgolion annibynnol roi ar gael i rieni a, phan fo hynny'n briodol, i awdurdodau lleol wybodaeth benodol fel dyddiadau tymhorau ac adroddiadau arolygu.
Gweithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Yn ôl y Memorandwm Esboniadol, mae'r Rheoliadau yn becyn sy’n mynd i’r afael â diffygion yn y fframwaith deddfwriaethol presennol. Yn benodol, mae paragraff 20 o'r Memorandwm Esboniadol yn darparu:
Mae Gweinidogion Cymru wedi cydnabod y diffygion hyn yn y fframwaith rheoleiddio a’r ffordd y gellir gorfodi'r Safonau drwy ymateb i adolygiad Comisiynydd Plant Cymru o sut y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau o dan adran 72 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, lle cafodd yr angen am ddiwygio sylfaenol i ddiweddaru'r system reoleiddio ar gyfer ysgolion annibynnol ei gydnabod. Gwnaed yr un ymrwymiad i adolygu’r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol yn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yn Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2020-21 ac yn yr ymateb i'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
24 Ionawr 2024